Persbectif daearyddol
Pentref a chymuned fechan ym Mwrdeistref Sirol Conwy yng Ngogledd Cymru, yw Llannefydd. Mae’r gymuned wedi'i lleoli ar lethrau Hiraethog, ger trefi marchnad hanesyddol Dinbych ac Abergele ac ar y ffin â Sir Ddinbych. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefan cyfagos Cefn Berain ac yng nghyfrifiad 2011, roedd poblogaeth y plwyf cymunedol yn 590.
Mae i’r gymuned arwynebedd sydd tua 31km2 ac mae dwysedd y boblogaeth yn 19/km2. Mae dwy afon, sef yr Elwy a’r Aled yn ymdroelli trwy’r ardal, yn ogystal â nifer o lednentydd llai, a’r mwyaf o’r rhain ydy Afon Asa. Mae'r Elwy yn ffurfio ffin ogleddol y gymuned ac mae'r Aled yn ffurfio ei ffin gorllewinol.
I'r gorllewin o'r pentref mae dwy gronfa gyflenwi dŵr - Llyn Plas Uchaf a Llyn Dolwen. Mae tri mynydd yn gwylio'r gymuned - Moel Fodiar (388m), Mynydd y Gaer (275m) a Mynydd y Gyrt (296m) – mae hanes anheddu nodedig i’r ddau gyntaf.
Yn ogystal â chael golygfeydd gwych o'r wlad leol o'u cwmpas, ar ddiwrnod clir gall y trigolion fwynhau golygfeydd pellgyrhaeddol sy'n ymestyn cyn belled â mynyddoedd Eryri i'r gorllewin a Chumbria i'r gogledd. Byddai llawer o drigolion lleol yn mynegi mai un o brif fanteision byw yn Llannefydd a Chefn Berain yw'r golygfeydd gwych y gellir eu gwarantu o wahanol fannau wrth gerdded yn yr ardal, ynghyd â'r amgylchedd heddychlon a thawel, wrth gwrs.
Geographical perspective
Llannefydd is a small village and community in Conwy County Borough in North Wales. It is located on the slopes of Hiraethog, near the historic market towns of Denbigh and Abergele and on the border with Denbighshire. The community includes the neighbouring hamlet of Cefn Berain and in the 2011 census, the community parish had a population of 590.
The community has an area of about 31km2 and a population density of 19/km2. Two rivers, the Elwy and Aled meander through the area, as well as a number of small tributaries, of which Afon Asa is the largest. The Elwy forms the community’s northern border and the Aled forms its western border. Two water supply reservoirs – Llyn Plas Uchaf and Llyn Dolwen lie to the west of the village. The community is watched over by three mountains – Moel Fodiar (388m), Mynydd y Gaer (275m) and Mynydd y Gyrt (296m) - the first two have notable settlement history.
As well as having some superb views of the surrounding local countryside, on a clear day the inhabitants can enjoy far reaching views stretching as far as the mountains of Snowdonia to the west and Cumbria to the north. Many local inhabitants would agree that one of the main advantages of living in Llannefydd and Cefn Berain is the superb views that can be guaranteed from various vantage points when walking in the area, along with the peaceful and tranquil environment, of course.
Persbectif hanesyddol
I'r gogledd-orllewin o'r pentref, mae Mynydd y Gaer (280 metr) o arwyddocâd hanesyddol sylweddol, gan ei fod yn cynnwys gweddillion bryngaer hynafol. Mae union ddyddiad y fryngaer hon yn aneglur, gan fod ei chynllun siâp polygon yn ei gwneud yn anarferol. Er bod caerau yn nodweddiadol o'r Oes Haearn, mae'n bosibl y gallai'r un hon ddyddio o’r cyfnod canoloesol cynnar.
I'r de o'r pentref, mae olion gwyddfa ar gopa Moel Fodiar - heneb sy'n cynnwys gweddillion dwy garnedd gladdu sy'n dyddio o'r Oes Efydd yn ôl pob tebyg (c.2300-800 CC). Disgrifir yr heneb hon gan Cadw fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.
Mae Llannefydd yn cynnwys priodoleddau hanesyddol arwyddocaol eraill, gan gynnwys Eglwys Sant Nefydd a’r Santes Fair sydd â chorff dwbl rhestredig Gradd I, a sefydlwyd yn y bumed ganrif. Gellir gweld croes y plwyf ganoloesol ym mynwent yr eglwys heddiw.
Ar ben hynny, mae dros ddeg ar hugain o adeiladau a strwythurau rhestredig (Gradd II) o fewn y gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys 11 ffermdy, 4 pont, 2 hen gapel ac oddeutu 14 adeilad amaethyddol a gofrestrwyd fel rhai sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig i Gymru.
Historical perspective
To the north-west of the village, Mynydd y Gaer (280 metres) is of considerable historical significance, since it contains the remnants of an ancient hillfort. The exact date of this hill fort is unclear, since it’s polygonal plan makes it unusual. Although hillforts are characteristic of the Iron Age, it is possible that this one might be early medieval.
Due South of the village, the summit of Moel Fodiar has a tumuli – a monument which comprises the remains of two burial cairns which probably date to the Bronze Age (c.2300-800 BC). This monument is described by Cadw as being of national importance.
Llannefydd has other significant historic attributes, including the church of St Nefydd and St Mary, which has a Grade I listed double body. The church was established in the fifth century and the medieval parish cross can be seen in the churchyard today.
In addition, there are over thirty listed buildings (Grade II) within the community. These include 11 farmhouses, 4 bridges, 2 old chapels and approximately 14 agricultural buildings listed as having special architectural or historic interest for Wales.