Diolch i bawb am eich cefnogaeth ddiweddar ac mae perffaith groeso i chi ysgrifennu at Mr David Jones, A.S. a Mr Darren Miller A.C. yn protestio yn erbyn y bygythiad i gau’r eglwys.
Yr her fwyaf mae’r eglwys yn ei wynebu yw’r sefyllfa ariannol. Yn y cyfarfod diweddar a fynychwyd gan wardeiniaid i geisio atal cau’r eglwys, ail adroddwyd bod gan yr esgobaeth eisiau gweld yr eglwys mewn sefyllfa ariannol llawer gwell os oedd i oroesi. Nid oedd yr iaith Gymraeg, y diwylliant Cymreig na chefnogi pobl cefn gwlad yn cyfrif dim iddynt. O safbwynt Eglwys Llannefydd, byddai cynnydd yn y nifer sy’n mynychu’r eglwys hefyd yn gam eithriadol gadarnhaol.
Bydd ein dyfodol yn cael ei benderfynu yn nechrau Mawrth pan fydd yn rhaid cyflwyno cynllun ariannol a dangos sut ydym am gynyddu niferoedd. Pe bai’r eglwys yn goroesi, trefnwyd cyfres o weithgareddau gan gychwyn gyda choffi ac arddangosfa yn yr eglwys ar fore Sadwrn, 26 Mawrth o 10 y.b. ymlaen. Cyfle i chi ddod i adnabod yr aelodau, yr eglwys a dweud sut yr hoffech i’r eglwys fod yn rhan o fywyd y plwyf.
Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys helfa wy Pasg, sgwrs am rai o’r cymeriadau a gladdwyd yn y fynwent, cwis ynghylch pa mor dda rydych yn adnabod y plwyf, noson darllen storiâu ysbryd yng ngolau cannwyll a gŵyl coeden Nadolig.
Gyda chau’r ysgol a’r posibilrwydd y bydd yr eglwys yn cau, mae’n drist bod ein cymdeithas yn marw tra bo ei haelodau’n gwneud eu gorau glas i gadw’r eglwys ar agor er mwyn pawb, ond mae angen cefnogaeth gadarnhaol gennych chi i gyflawni hyn yn ariannol a thrwy eich presenoldeb mewn gweithgareddau os ydym i lwyddo. Mewn oes o apathi, gadewch i ni un ac oll uno i achub bywyd cymdeithasol y plwyf.